Skip to main content

Melin Bapur

Y Peiriant Amser

No reviews yet
Product Code: 9781739440305
ISBN13: 9781739440305
Condition: New
$18.16

Y Peiriant Amser

$18.16
 
(Welsh Translation of H. G. Wells The Time Machine) Cydnabyddir H.G. Wells fel un o brif ffigyrau cynnar ffuglen wyddonol, mewn unrhyw iaith. Ysgrifennodd dros bum deg o nofelau ac chyfrir y enwocafohonynt, gan gynnwys The Time Machine, The Island of Doctor Moreau, The Invisible Man, The War of the Worlds ac When the Sleeper Wakes, ymhlith y straeon mwyaf enwog a phoblogaidd erioed. Cafodd ei enwebu bedwar gwaith ar gyfer wobr Nobel mewn llenyddiaeth. "Eiliad yn ddiweddarach roedden ni'n dau'n wynebu ein gilydd, minnau a'r creadur bregus hwn o'r dyfodol. Daeth yn syth ataf i, a chwarddodd yn uchel yn fy wyneb. Fe'm trawyd ar unwaith gan y ffaith nad oedd awgrym o ofn ynddo o gwbl." Un noswaith yn Llundain tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae gwr ffraeth a hyddysg yn estyn gwahoddiad i grwp o'i gyfoedion fod yn dyst wrth iddo arddangos ei ddyfais anhygoel newydd: y Peiriant Amser. Gyda hwn, mae'n teithio cannoedd o filoedd o flynyddoedd i'r dyfodol ac yn cael ei hun mewn paradwys, o'r golwg. Ond pam felly bod popeth i'w weld mewn adfeilion? A beth sy'n llechu dan wyneb y byd rhyfedd newydd hwn? Nofel gyntaf Herbert George Wells, heb os, yw un o'r portreadau enwocaf o'r dyfodol mewn ffuglen, ac hyd heddiw, mae'n un o'r rhai mwyaf arswydus. Y cyfieithiad newydd hwn yw'r tro cyntaf i waith Wells fod ar gael yn y Gymraeg. Cyhoeddwyd Y Peiriant Amser yn 1895 a hi oedd ei nofel gyntaf. Er nad hon oedd y nofel gyntaf i archwilio'r cysyniad o deithio mewn amser, hon sefydlodd y syniad o 'beiriant amser' yn y ddychymyg boblogaidd. Heb os, bu'n dylanwad ar Islwyn Ffowc Elis pan ysgrifennodd yntau Wythnos yng Nghymru Fydd, y nofel Cymraeg enwocaf am deithio mewn amser. (English Description) This new edition of H. G. Wells Science Fiction classic The Time Machine is the first time any of Wells' books have been made available in Welsh.


Author: Herbert George Wells
Publisher: Melin Bapur
Publication Date: Jan 14, 2024
Number of Pages: NA pages
Language: Welsh
Binding: Paperback
ISBN-10: 1739440307
ISBN-13: 9781739440305
 

Customer Reviews

This product hasn't received any reviews yet. Be the first to review this product!

Faster Shipping

Delivery in 3-8 days

Easy Returns

14 days returns

Discount upto 30%

Monthly discount on books

Outstanding Customer Service

Support 24 hours a day