Melin Bapur
Madam Wen
Product Code:
9781739440374
ISBN13:
9781739440374
Condition:
New
$21.80
(A classic adventure novel in Welsh set on Anglesey during the early eighteenth century) Sir Fôn, y ddeunawfed ganrif. Mae'r grwp o ladron penffordd yn ymosod ar yr Yswain ifanc Morys William a dwyn swm nid bach o arian oddi arno. Caiff wybod mai pennaeth y lladron lleol yw Madam Wen, cymeriad y mae dirgelwch yn ei chanlyn i bobman. Yn y cyfamser, wrth ymweld ag ystâd y Penrhyn mae Morys yn cwrdd ag Einir Wyn, merch brydferth sydd wedi tyngu llw y bydd yn adennill y tiroedd a ddygwyd oddi ar ei thad. Pwy yw Madam Wen? Menyw, neu ddrychiolaeth? Lleidr, neu arwres? Person o gig a gwaed, neu'n ddim byd ond sibrwd ar goll yn swn y tonnau? Nofel W. D. Owen am ladron penffordd, dirgelwch, cleddyfa, smyglwyr, gwisgoedd ffug, Jacobiniaid, môr-ladron a serch yw nofel antur Gymraeg orau ei oes ac yn Madam Wen ei hun cawn un o gymeriadau mwyaf hynaws llenyddiaeth Gymraeg. Addaswyd y nofel yn ffilm ar S4C yn 1982. Mae'r argraffiad newydd hwn, y cyntaf ers 99 o flynyddoedd, yn cyflwyno'r antur i ddarllenwyr o'r newydd mewn orgraff ddiwygiedig.
Author: William David Owen |
Publisher: Melin Bapur |
Publication Date: Feb 23, 2024 |
Number of Pages: NA pages |
Language: Welsh |
Binding: Paperback |
ISBN-10: 1739440374 |
ISBN-13: 9781739440374 |